Datganiad hygyrchedd ar gyfer Rheoli trwyddedau pysgota a datganiadau dalfeydd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i Rheoli trwyddedau pysgota a datganiadau dalfeydd.

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Lywodraeth Cymru. Rydym eisiau i gynifer â phosibl o bobl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau gan ddefnyddio’r porwr neu osodiadau eich dyfais
  • nesáu hyd at 400% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae AbilityNet yn cynnig cyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Mae'r materion canlynol wedi'u datrys lle bo hynny'n bosibl, fodd bynnag, efallai yr effeithir ar nifer cyfyngedig o dudalennau o hyd.

  • Bydd y system yn dod i ben yn awtomatig ar ôl 20 munud o fod yn segur, gall y defnyddiwr golli data ac mae angen ailgychwyn ei ffurflen.

Mae rhai ffurflenni rhyngweithiol yn anodd llywio gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin. Gall defnyddiwr rhaglen darllen sgrin gwblhau'r gwasanaeth yn annibynnol ond gyda mân broblemau:

  • Gall gwybodaeth fwy na'r angenol neu wybodaeth ddwywaith gael ei darllen gan ddefnyddiwr rhaglen darllen sgrin.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os ydych yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi cael eu rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

Llywodraeth Cymru
Is-adran Môr a Physgodfeydd
Data a Thechnoleg
Cyffordd Llandudno
Conwy
LL31 9RZ

TystiolaethaThechMor@llyw.cymru

Os oes angen yr wybodaeth ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:

Cymorth cwsmeriaid
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: cymorth@llyw.cymru
Ffôn: 0300 0604400 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8:30yb i 5yp)

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch cyn pen 15 diwrnod.

Os nad ydych yn gallu gweld y map ar ein tudalen ‘cysylltu â ni’, anfonwch e-bost atom neu codwch y ffôn cymorth@llyw.cymru i gael cyfarwyddiadau.

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am weithredu Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych chi’n anhapus â’r ffordd rydyn ni’n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni ar y ffôn neu ymweld â ni

Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfnewid testun i bobl sy’n B/byddar, sydd â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd.

Mae system dolen glywed yn ein swyddfeydd, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain.

Sut mae cysylltu â ni

Llywodraeth Cymru
Is-adran Môr a Physgodfeydd
Data a Thechnoleg
Cyffordd Llandudno
Conwy
LL31 9RZ

E-bost: TystiolaethaThechMor@llyw.cymru

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfedd

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2, oherwydd ‘diffyg cydymffurfio a'r eithriadau’ sy’n cael eu rhestru isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Nid yw'r cynnwys sy’n cael ei restru isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Mewn rhai tudalennau, nodwyd bod defnydd amhriodol o ARIA, gan arwain at ddarparu gormod o wybodaeth i bobl sy'n defnyddio darllenydd sgrin. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth) a 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd) WCAG2.1.

Bydd y system yn dod i ben yn awtomatig ar ôl 20 munud o fod yn segur, gan arwain at golli data. Nid oes gan y defnyddiwr unrhyw opsiwn i analluogi neu ymestyn y terfyn amser hwn. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.2.1 (Amseru addasadwy) WCAG 2.2.

Pa mor rydyn ni'n gwella hygyrchedd

Rydym yn ceisio datrys y defnydd amhriodol o Aria a'n nod yw ei datrys yn y dyfodol agos.

Nid yw iteriad cyfredol y gwasanaeth yn caniatáu i'r defnyddiwr ymestyn neu analluogi'r terfyn amser 20 munud wrth gwblhau cais. Nid ydym wedi datrys hyn eto, fodd bynnag, bydd defnyddwyr yn cael eu rhybuddio cyn dechrau cais ac yn cael cyngor am yr wybodaeth fydd ei hangen arnynt ymlaen llaw.

Paratoad y datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 30 Ebrill 2024. Adolygwyd ddiwethaf ar 30 Ebrill 2024.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 4 Ebrill 2024. Cynhaliwyd y prawf gan Canolfan Hygyrchedd Digidol.

Gallwch ddarllen yr adroddiad prawf hygyrchedd llawn yma.